Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
SL(05)009 - Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Dosbarthau Esempt ar Leoedd Tân) (Cymru) 2016
Cefndir a Phwrpas
Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli gyda diwygiadau Gorchymyn Ardaloedd Rheoli Mwg (Lleoedd Tân Esempt) (Cymru) 2015 (O.S. 2015 1513) (Cy. 175). Mae'r Gorchymyn yn pennu dosbarthau o leoedd tân sy'n cael eu heithrio ar hyn o bryd rhag ddarpariaethau adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 yng Nghymru.
Gweithdrefn
Negyddol
Craffu Technegol
Nodwyd y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 (vi) a (vii) mewn perthynas â'r offeryn hwn.
1. Yn ail golofn y cofnod ar gyfer y "Cascada 5CB 4.6kW stof amldanwydd", nodir fod y cyfarwyddiadau gosod a gweithredu yn ddyddiedig "1 Tachwedd 2016". Mae hwn naill ai'n wall teipograffyddol neu is-ddirprwyaeth anghyfreithlon. (Rheol Sefydlog 21.2 (vi) (drafftio diffygiol) neu 21.2(i) (ultra vires))
2. Yn ail golofn y cofnod ar gyfer y Barbas Unilux-6 40 mae blwyddyn y cyfarwyddiadau sydd i'w defnyddio (2015) wedi'i hepgor o'r testun Cymraeg ond fe'i cynhwysir yn y testun Saesneg. Mae'r un peth wedi digwydd yn y cofnodion canlynol ar gyfer y Barbas Unilux-6 52, y Barbas Unilux-6 55 a'r Barbas Unilux-6 65. (Rheol Sefydlog 21.2 (vii): anghysondeb rhwng y testun Cymraeg a'r testun Saesneg.)
3. Yn ail golofn y cofnod ar gyfer y Contura i6, mae'r fanyleb Saesneg yn darparu ar gyfer “the fitting of a system to prevent closure of the air control vent beyond the 30% open position”. Mae'r testun Cymraeg yn darparu ar gyfer atal y fent rheoli aer rhag agor y tu hwnt i’r safle 30% agored. (Rheol Sefydlog 21.2 (vii): anghysondeb rhwng y testun Cymraeg a'r testun Saesneg.)
4. Yng ngholofn gyntaf y cofnod ar gyfer y Falun Model F9478 a modelau eraill, mae'r testun Saesneg yn cynnwys nodyn sy'n datgan “NB: Falun II model number changed from F9478 1 toF9480 1.” Nid yw hyn i'w weld yn y testun Cymraeg. (Rheol Sefydlog 21.2 (vii): anghysondeb rhwng y testun Cymraeg a'r testun Saesneg.)
5. Yng ngholofn gyntaf y cofnod ar gyfer "Horby Model F9473 N...", mae nodyn sy'n datgan “NB: addition of ‘Colmar’ model F9472 X further to notification dated 6 August 2015”. Nid yw hyn i'w weld yn y testun Cymraeg. (Rheol Sefydlog 21.2 (vii): anghysondeb rhwng y testun Cymraeg a'r testun Saesneg.)
6. Yn ail golofn y ddau gofnod ar gyfer y Mendip Churchill 5 SE, cyfeiria'r testun Saesneg at ‘secondary air control’ tra bod y testun Cymraeg ond yn cyfeirio at “rheolydd aer”. Mae'r cofnod a ganlyn ar gyfer y trydydd math o'r stof hon yn cyfeirio'n gywir at “rheolydd aer eilaidd.” (Rheol Sefydlog 21.2 (vii): anghysondeb rhwng y testun Cymraeg a'r testun Saesneg.)
7. Yn y tri chofnod ar gyfer y gwresogydd ystafell Piazzetta, rhoddir cyfeiriadau gwahanol yn y testunau Cymraeg a Saesneg. (Rheol Sefydlog 21.2 (vii): anghysondeb rhwng y testun Cymraeg a'r testun Saesneg.)
8. Mae'r cofnod sy'n dechrau â chyfeiriad at y stof Scan 65-1 yn cynnwys, yn achos y stof olaf ond un yn y rhestr o fodelau, 65-9 yn y testun Saesneg a 64-9 yn y testun Cymraeg. (Rheol Sefydlog 21.2 (vii): anghysondeb rhwng y testun Cymraeg a'r testun Saesneg.)
Craffu ar rinweddau
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
19 Medi 2016